Hanes Cymru

Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint, mae hanes Cymru yn hir a diddorol. Gellid dadlau fod hanes Cymru fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau yn ystod cyfnod rheolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig. Credir fod Cristnogaeth wedi ymgartrefu yng Nghymru tua diwedd y cyfnod hwnnw ac arferir galw'r cyfnod olynol yn Oes y Seintiau. Yng nghyfnod y seintiau cynnar gwelwyd newidiadau sylfaenol ym Mhrydain o dan bwysau'r goresgyniad Eingl-Sacsonaidd yn ne a dwyrain yr ynys a mewnfudo gan Wyddelod i Gymru a gorllewin yr Alban.

Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr 8g, pan godwyd Clawdd Offa, roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r Oesoedd Canol wedi dechrau. Yn sgil y goresgyniad Normanaidd newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "Oes y Tywysogion". Yn yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru ar ôl cwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd ap Gruffudd, cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd Harri Tudur Frwydr Bosworth gan sefydlu cyfnod y Tuduriaid.

Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestannaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19g roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.

Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw yn meddu Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search